Rheoli Glaswelltiroedd Torfaen

Rhannu Rheoli Glaswelltiroedd Torfaen ar Facebook Rhannu Rheoli Glaswelltiroedd Torfaen Ar Twitter Rhannu Rheoli Glaswelltiroedd Torfaen Ar LinkedIn E-bost Rheoli Glaswelltiroedd Torfaen dolen

Sut i ddweud eich dweud

Darllenwch y wybodaeth ar y dudalen hon, gwyliwch y fideo, a chwblhewch yr arolwg byr.

Mae yna hefyd fap rhyngweithiol isod o'r safleoedd 'torri a chasglu' arfaethedig a phresennol. Mae'r map hwn yn eich galluogi i ollwng pin ar unrhyw safle arfaethedig ac ychwanegu sylw, felly rhannwch eich adborth yma hefyd.

Sesiynau ymgynghori wyneb yn wyneb

Mae croeso i chi hefyd alw heibio a chwrdd â'r tîm i ddysgu mwy am yr ymgynghoriad. Byddan nhw yn:

  • Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon, dydd Mawrth 22ain Gorffennaf (1pm-4.30pm)
  • Marchnad Pont-y-pŵl, dydd Mercher 23ain Gorffennaf (1pm-4.30pm)
  • Llyfrgell Cwmbrân, dydd Gwener 25ain Gorffennaf (1pm-4.30pm)

Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos ddydd Gwener 15fed Awst, 2025.

Ynglŷn â'r ymgynghoriad

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw casglu eich barn ar reoli mannau gwyrdd cyhoeddus, fel ymylon ar ochr ffyrdd a pharciau, i'w gwella ar gyfer bioamrywiaeth.

Sylwer, bydd ymylon yr holl ardaloedd sy'n gyfagos i ffyrdd a llwybrau yn cael eu torri'n rheolaidd. Mae yna rai Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen hon sy'n cwmpasu llawer o'r ymholiadau yr ydym yn eu derbyn.

Mae nifer y safleoedd yn Nhorfaen wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf, ac rydym bellach yn ymgynghori ar ardaloedd arfaethedig pellach i fodloni ein Dyletswydd Bioamrywiaeth adran 6 statudol, targedau yn yr Argyfwng Hinsawdd a Natur ac amcanion llesiant yng Nghynllun Sir y Cyngor.

Ynglŷn â'n dull o reoli glaswelltir

Mae Cyngor Torfaen wedi bod ar flaen y gad o ran defnyddio rheoli bwriadol glaswelltiroedd yng Nghymru yn

Cribell felen

ystod y tair blynedd diwethaf. Mae newidiadau i arferion torri gwair ar draws y fwrdeistref sirol wedi dangos y gall sut a phryd rydyn ni'n torri gwair, hyd yn oed mewn mannau bach, wneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt ac i les.

Ers mabwysiadu'r dull rheoli glaswelltir presennol yn 2020, rydym wedi gweld cynnydd mewn blodau gwyllt, pryfed a rhywogaethau eraill. Mae'r dull hwn yn adlewyrchu polisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar dystiolaeth sefydledig a dyletswydd gyfreithiol gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Bob blwyddyn mae'r rhaglen wedi cael ei ehangu ac wedi ysbrydoli awdurdodau lleol eraill yng Nghymru oherwydd y manteision a welwyd eisoes a'r ffordd maen nhw'n helpu i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Sylwer: Fel rhan o ddull Cymunedau ehangach y cyngor, mae ardaloedd helaeth o'r fwrdeistref yn cael eu rheoli ar gyfer chwaraeon a hamdden, ac nid oes unrhyw gynigion i newid hyn.

Gallwch ddysgu mwy trwy wylio'r fideo byr isod.

Diweddaru: 15 Jul 2025, 09:13 AC