CC: Ynglŷn â thorri a rheoli glaswellt
- yn atal cronni llystyfiant marw, a all dagu planhigion eiddil
- yn gadael tir mwy agored i ganiatáu i hadau dyfu
- yn lleihau ffrwythlondeb pridd, gan arafu twf glaswellt bras sy'n caru maetholion ac sy'n tagu blodau gwyllt a glaswellt mân
- cyffyrdd
- ymylon ffyrdd
- cylchfannau
- cacwn
- pryfed hofran
- chwilod
- gloÿnnod byw
- gwyfynod
- ceiliogod rhedyn
- cynghorau cymuned a thref, a
- chymdeithasau tai
- awdurdodau lleol
- cynghorau cymuned a thref
- cymdeithasau tai, a
- grwpiau cymunedol
- trwy gefnogaeth gorfforaethol a chynlluniau rheoli
- trwy ymuno â’r cynllun Caru Gwenyn
Beth yw "torri a chasglu"?
Dull sy'n copïo ffyrdd traddodiadol o reoli dolydd gwair yw torri a chasglu. Mae'n golygu casglu toriadau (deilliannau) glaswellt ar ôl torri. Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod:
Beth am ddiogelwch i ddefnyddwyr y ffyrdd?
Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cadw ffyrdd yn ddiogel i ddefnyddwyr. Er mwyn gwelededd, bydd angen i ni reoli rhai ardaloedd i sicrhau diogelwch. Efallai y byddwn yn torri'r rhain yn amlach:
Beth am y risg o dân?
Nid yw safleoedd torri a chasglu yn cael eu hystyried yn risg uchel yn gyffredinol, yn enwedig pan fyddant yn cael eu reoli'n dda gydag ymylon torri. Mewn rhai achosion, rydym yn creu toriadau tân os ydynt yn uniongyrchol wrth ymyl tai. Mewn gwirionedd, gallant fod yn fuddiol trwy greu ardaloedd o fwy o leithder a llwythi tanwydd is trwy eu cyfansoddiad amrywiol.
A oes perygl fod glaswellt hir yn cuddio nodwyddau, gwydr, baw cŵn ac ati?
Mae uchder y glaswellt yn atal symudiad, ac mewn gwirionedd nid yw ein timau wedi canfod y materion hyn yn sylweddol wrth dorri; Mae llwybrau â gwair wedi'i dorri’n aml yn cael eu darparu sydd hefyd yn rheoli'r defnydd
Beth sydd a wnelo torri gwair gyda’r amgylchedd?
Rydym mewn argyfwng natur. Mae ein bywyd gwyllt yn dirywio ac mae angen i ni weithredu nawr i'w achub.
Gallwn wneud ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder (parciau a mannau gwyrdd agored eraill) yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Gall glaswellt wedi'i dorri'n rheolaidd, yn agos edrych yn daclus ond nid yw o fawr o fudd i fywyd gwyllt. Mae gadael i laswellt dyfu a chael mwy o ardaloedd tebyg i ddolydd gyda blodau gwyllt yn helpu bywyd gwyllt
Pa fuddion sydd yna o gael mannau o laswellt hir fel dolydd?
Planhigion
Mae blodau gwyllt, gan gynnwys blodau gwyllt prin, yn tyfu ac yn cynhyrchu hadau, gan ganiatáu iddynt gynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Infertebratau
Mae blodau gwyllt a glaswellt yn darparu bwyd i bryfed, gan gynnwys:
Mae glaswellt hir yn rhoi lloches i ddodwy eu hwyau a chwblhau eu cylchoedd bywyd. Mae priddoedd dolydd yn cynnwys nifer uchel o bryfed genwair.
Mamaliaid
Mae ystlumod, llygod maes, llygod y gwair, chwistlod a draenogod yn bwyta'r planhigion a'r infertebratau a geir mewn dolydd.
Amffibiaid
Mae brogaod a llyffantod yn bwydo ar infertebratau.
Ymlusgiaid
Mae nadroedd defaid a madfallod hefyd yn bwyta infertebratau, ac mae nadroedd glaswellt yn bwyta brogaod.
Adar
Adar bach fel y nico yn bwyta hadau o flodau gwyllt. Mae adar eraill fel gwenoliaid a gwenoliaid du yn bwyta pryfed. Mae cudyllod coch, bwncathod a thylluanod gwyn yn bwydo ar famaliaid bach.
Ydych chi’n ceisio arbed arian?
Mae newid sut rydym yn torri glaswellt yn ymwneud ag achub bywyd gwyllt, nid lleihau costau
Gall newid sut rydym yn torri glaswellt greu mwy o ddolydd blodau gwyllt brodorol. Hyd yn oed os yw rhai o'r clytiau hyn yn fach, bydd y cyfan at ei gilydd yn ardal fawr. Bydd bywyd gwyllt yn gallu symud rhwng cynefinoedd blodau gwyllt wrth iddynt gysylltu.
Sut mae llai o dorri gwair yn helpu i daclo llifogydd?
Mae torri gwair yn llai aml yn atal pridd rhag mynd yn rhy gywasgedig. Mae priddoedd llac yn caniatáu i wreiddiau planhigion ddatblygu'n well. Mae hyn yn helpu pridd i amsugno dŵr ac yn lleihau effeithiau llifogydd a sychder.
Pwy sy’n rheoli ymylon ffyrdd a glaswelltir cymunedol?
Rydym yn gweithio gydag Asiantau Cefnffyrdd i ofalu am ein rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd. Mae cefnffyrdd a thraffyrdd yn ffyrdd prysur iawn. Maen nhw’n cysylltu dinasoedd, trefi a phorthladdoedd mawr. Mae'r M4, yr A470 a'r A55 yn rhai enghreifftiau. Mae mwy o wybodaeth am ymylon ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd ar gael.
Mae awdurdodau lleol yn rheoli'r rhan fwyaf o ymylon ffyrdd eraill. Gall ymylon o amgylch pentrefi ac mewn ardaloedd preswyl fod dan ofal:
Mae glaswelltir amwynder sy'n eiddo cyhoeddus yn derbyn gofal gan:
Os ydych chi'n poeni bod hyd ymyl ochr y ffordd yn achosi perygl, gallwch roi gwybod amdano drwy gysylltu â'r Tîm Strydlun ar 01495 762200.
Beth sydd a wnelo hyn â Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016?
O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth. Gall torri ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder mewn ffordd ofalus helpu i gyflawni'r ddyletswydd hon.
Mae sefydliadau sy'n nodi eu blaenoriaethau rheoli glaswelltir yn hyrwyddo gweithredu:
Mae hyn yn annog gweithluoedd i weithio gyda'i gilydd ac i fabwysiadu dulliau newydd.
Mae Plantlife wedi cynhyrchu rheoli ymylon ffyrdd glaswelltog: canllaw arfer gorau (Dolen allanol) (gweler yr adran adnoddau ar https://roadverges.plantlife.org.uk). Roedd hyn mewn cydweithrediad â phartneriaid gan gynnwys ni ein hunain.