Sut i annog mwy o flodau gwyllt yn eich gardd
Er mwyn annog blodau gwyllt yn eich gardd, torrwch y gwair yn llai aml, cyflwynwch y Gribell Felen, heuwch hadau blodau gwyllt brodorol neu blanhigion bach, a sicrhewch bridd o faeth isel. Osgowch ddefnyddio chwynladdwyr, gwrteithiau, a lladdwr mwsogl.
Awgrymiadau gorau:
1. Torri wair yn llai aml:
Stopiwch dorri eich lawnt neu lleihewch amlder torri gwair yn sylweddol.
Ystyriwch ddull dau doriad: un yn yr hydref ac un yn y gwanwyn.
Tynnwch doriadau glaswellt i atal cronni maetholion.
Gadewch i blanhigion hedeg cyn torri
2. Cyflwynwch y Gribell Felen (yn y llun):
Planhigyn lled-barasitig sy'n gwanhau glaswellt, gan greu lle i flodau gwyllt ffynnu yw’r Gribell Felen.
Yr hydref yw’r pryd gorau i’w gyflwyno.
Gellir ei hau mewn darnau o bridd wedi'i baratoi.