Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect

Ymgynghoriad Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd

Mae Cyngor Torfaen yn gwerthfawrogi barn pobl sy'n byw ac yn gweithio yn Nhorfaen. Mae ein meysydd gwasanaeth yn annog aelodau o'r gymuned i chwarae rhan yn y broses benderfynu, a defnyddio’u barn a'u profiadau i lywio cynlluniau, polisïau a chamau gweithredu. 

Rydym hefyd am weithio gyda'n cymunedau mewn ffyrdd creadigol newydd i gael hyd i atebion a rennir a chyfleoedd i gyd-gynhyrchu a chyd-ddarparu.

Mae ein timau'n defnyddio gwahanol ddulliau i ymgysylltu ag unigolion, cymunedau, busnesau a phartneriaid. Mae'r dulliau hyn yn cynnwys ystod o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, rhithwir ac ar-lein, a chyfleoedd i roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar drigolion i wneud penderfyniadau gwybodus am y ffordd yr ydym yn gweithio, a'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn.