Polisi preifatrwydd y Wefan
Beth mae’r polisi hwn yn ei gynnwys
Rydyn ni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn cymryd ein rhwymedigaethau preifatrwydd o ddifrif ac rydym wedi creu’r polisi preifatrwydd hwn i esbonio sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol a gesglir ar y wefan hon. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyfranogiad llawn, gan gynnwys ein sail gyfreithiol i brosesu gwybodaeth bersonol, i’w weld yma. Mae gwybodaeth bersonol yn wybodaeth rydym yn ei phrosesu sy’n wybodaeth y gellir ei hadnabod fel bod amdanoch chi.
Mae ein proses o gasglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rheoleiddio gan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data 2018.
Darperir y llwyfan meddalwedd y mae’r wefan hon yn rhedeg arno, a’r gweithrediadau technoleg cysylltiedig, gan Bang the Table Pty Ltd. Cliciwch y ddolen hon i weld y Polisi preifatrwydd sy’n llywodraethu eu gwasanaeth.
Yr wybodaeth bersonol a gesglir gennym
Gwybodaeth Proffil
Rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r safle hwn. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad ebost a gwybodaeth ddemograffig ychwanegol fel y darperir gennych chi ar y ffurflen gofrestru.
Nodwch y gallwch bori unrhyw adrannau sy’n hygyrch i’r cyhoedd o’r wefan hon yn gwbl ddienw heb gofrestru.
Gwybodaeth ar Ymgysylltiad
Y cynnwys rydych yn ei greu fel rhan o’ch rhyngweithiad gyda’r wefan hon. Gall hyn gynnwys ymateb i arolygon, sylwadau ar fforymau trafod, neu unrhyw un o’r cyfleoedd ymgysylltu eraill sydd ar gael yma.
Gwybodaeth ar Ddefnydd
Rydym yn casglu gwybodaeth ar sut rydych yn defnyddio’r safle hwn, megis tudalennau rydych wedi ymweld â nhw, dogfennau wedi eu lawrlwytho ac ati.
Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydym yn ei chasglu
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn:
- ei dadansoddi a’i dehongli i’n helpu i gyflawni ein hamcanion a’n rhwymedigaethau;
- cyfathrebu gwybodaeth i chi am gyfleoedd ymgysylltu, digwyddiadau a mentrau eraill, ac
- i ymateb i ymholiadau a chysylltu fel arall gyda rhanddeiliaid.
Dolennau allanol
Gall ein gwefan gynnwys dolennau i wefannau eraill. Mae’r dolennau hyn yno er hwylustod ac efallai nad ydynt yn gyfredol nac yn cael eu cynnal. Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau felly ac rydym yn awgrymu eich bod yn arolygu polisïau preifatrwydd y gwefannau hynny cyn eu defnyddio.
Diogelwch
Tra nad yw’r un gwasanaeth arlein yn gwbl ddiogel, rydym yn gweithio’n galed iawn i ddiogelu gwybodaeth amdanoch chi yn erbyn cael ei gweld, ei defnyddio, ei newid neu ei dinistrio ac rydym yn cymryd pob mesur rhesymol i wneud hynny.
Cais am fynediad neu i gywiro eich gwybodaeth bersonol
Yn amodol ar gyfreithiau a rheoliadau lleol perthnasol, mae gennych rai neu’r cyfan o’r hawliau canlynol mewn perthynas â’ch data personol:
- cael mynediad at eich data personol a chywiro unrhyw beth sy’n anghywir o fewn y data personol hwnnw;
- gofyn am gael dileu’r data personol sydd gennym amdanoch chi;
- gofyn am eich data personol ar ffurf cludadwy, y gellir ei ddarllen gan beiriant, a
- thynnu yn ôl eich caniatâd i ni brosesu eich data personol.
Os dymunwch gysylltu gyda ni gyda chais yn ymwneud â’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir isod, gan gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt. Efallai y bydd angen i ni ddilysu pwy ydych chi cyn darparu eich gwybodaeth bersonol i chi.
Mewn rhai achosion, efallai na allwn ganiatáu i chi weld yr holl wybodaeth bersonol ac os yw hyn yn digwydd, byddwn yn esbonio pam. Byddwn yn delio gyda phob cais am fynediad at wybodaeth bersonol o fewn amserlen resymol.
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi preifatrwydd ac arferion gwybodaeth cysylltiedig, neu i weld neu gywiro eich gwybodaeth bersonol, neu i gwyno, cysylltwch â ni ar getinvolved@torfaen.gov.uk