Ailwampio Llyfrgell Cwmbrân
Fe fydd Llyfrgell Cwmbrân yn cau dros dro, er mwyn creu hwb cymunedol gwell.
Fe fydd y Llyfrgell ar gau o Chwefror 24ain am gyfnod o tua phedair wythnos er mwyn i’r gwaith gael ei wneud.
Mwy am y gwaith ailwampio
Mae Llyfrgell Cwmbrân yn gyfleuster cymunedol sy’n cael ei ddefnyddio'n dda yn barod, gan filoedd o bobl, bob mis.
Mae gan lyfrgelloedd lawer o ddibenion. Maen nhw’n hybiau ar gyfer dysgu gydol oes, ymgysylltu â'r cyhoedd, a thwf personol ymhlith pethau eraill. Bydd y gwaith ailwampio hwn yn helpu i foderneiddio'r lle, ac yn cadw ei rôl fel adnodd croesawgar a hygyrch i bawb ar yr un pryd.
Bydd y gwaith ailwampio yn cynnwys ad-drefnu'r lle presennol fel bod mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithio ac astudio ystwyth, llyfrgell newydd i bobl ifanc yn eu harddegau ac ardaloedd penodol ar gyfer iechyd a lles a gwybodaeth a chyngor. Bydd dodrefn a chyfleusterau digidol newydd yn moderneiddio'r lle ac yn gwella profiad y cwsmer.
Mae bron i hanner miliwn o bunnau yn cael ei fuddsoddi yn Llyfrgell Cwmbrân. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi Grant Cyfalaf Trawsnewid gwerth £300,000 tuag at y gwaith adnewyddu, ac mae Cyngor Torfaen wedi ychwanegu £127,000 arall.
Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i foderneiddio'r cyfleusterau ac i ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr.
Daw'r cyllid ar ôl buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Llyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon.
Rhoddwyd £300,000 o Ddatblygiad Cyfalaf Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol i Lyfrgell Pont-y-pŵl yn 2011 a rhoddwyd £100,000 pan symudwyd Llyfrgell Blaenafon i Ganolfan Treftadaeth y Byd yn 2015.
Bydd y gwaith o ailwampio Llyfrgell Cwmbrân yn rhan o gynlluniau ehangach i wella Tŷ Gwent dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Eich cwestiynau
Os ydych chi'n defnyddio'r Llyfrgell, bydd gennych gwestiynau am ble i gael gafael ar lyfrau, cymorth, a mwy, tra bod y Llyfrgell ar gau dros dro. Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin am gau’r Llyfrgell dros dro.
Os oes gennych gwestiwn o hyd, cofiwch ei bostio yn yr adran Eich cwestiynau ar y dudalen hon a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.
AM DDIM- hen ddodrefn a chypyrddau llyfrau
Fel rhan o'r gwaith adnewyddu byddwn yn cael cypyrddau llyfrau a chadeiriau newydd. Felly hoffem ddod o hyd i gartrefi da ar gyfer yr hen offer. Os hoffech wneud cais am unrhyw rhai o'r eitemau hyn AM DDIM ar gyfer grŵp cymunedol neu ysgol, edrychwch ar y ffurflen isod a'i chwblhau cyn gynted â phosibl.
Rhoddir yr eitemau ar sail y cyntaf i’r felin (Gallwn gadarnhau hyn yn ôl yr amser a'r dyddiad y bydd pob person yn llenwi ei ffurflen).
Cysylltir â'r rhai sy'n llwyddiannus a rhaid iddynt drefnu i gasglu’r eitemau yn ystod wythnos 24 Chwefror, neu bydd yr eitemau'n cael eu rhoi i rywun arall.
Os hoffech weld yr eitemau ymlaen llaw. e-bostiwch stephanie.morgan@torfaen.gov.uk pan fyddwch chi wedi llenwi’r ffurflen isod.
Uchod: y cynllun arfaethedig
Eich cwestiynau
Os oes gennych gwestiynau am ddefnyddio gwasanaethau tra bod y Llyfrgell ar gau dros dro, neu hyd yn oed am sut i ddychwelyd llyfrau... mae croeso i chi eu holi yma. Byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.
Cofiwch y gallwch hefyd ddarllen y Cwestiynau Cyffredin am gau’r Llyfrgell dros dro.
Diolch
Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau