Ailwampio Llyfrgell Cwmbrân

Rhannu Ailwampio Llyfrgell Cwmbrân ar Facebook Rhannu Ailwampio Llyfrgell Cwmbrân Ar Twitter Rhannu Ailwampio Llyfrgell Cwmbrân Ar LinkedIn E-bost Ailwampio Llyfrgell Cwmbrân dolen

Fe fydd Llyfrgell Cwmbrân yn cau dros dro, er mwyn creu hwb cymunedol gwell.

Fe fydd y Llyfrgell ar gau o Chwefror 24ain am gyfnod o tua phedair wythnos er mwyn i’r gwaith gael ei wneud.

Mwy am y gwaith ailwampio

Mae Llyfrgell Cwmbrân yn gyfleuster cymunedol sy’n cael ei ddefnyddio'n dda yn barod, gan filoedd o bobl, bob mis.

Mae gan lyfrgelloedd lawer o ddibenion. Maen nhw’n hybiau ar gyfer dysgu gydol oes, ymgysylltu â'r cyhoedd, a thwf personol ymhlith pethau eraill. Bydd y gwaith ailwampio hwn yn helpu i foderneiddio'r lle, ac yn cadw ei rôl fel adnodd croesawgar a hygyrch i bawb ar yr un pryd.

Bydd y gwaith ailwampio yn cynnwys ad-drefnu'r lle presennol fel bod mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithio ac astudio ystwyth, llyfrgell newydd i bobl ifanc yn eu harddegau ac ardaloedd penodol ar gyfer iechyd a lles a gwybodaeth a chyngor. Bydd dodrefn a chyfleusterau digidol newydd yn moderneiddio'r lle ac yn gwella profiad y cwsmer.

Mae bron i hanner miliwn o bunnau yn cael ei fuddsoddi yn Llyfrgell Cwmbrân. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi Grant Cyfalaf Trawsnewid gwerth £300,000 tuag at y gwaith adnewyddu, ac mae Cyngor Torfaen wedi ychwanegu £127,000 arall.

Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i foderneiddio'r cyfleusterau ac i ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr.

Daw'r cyllid ar ôl buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Llyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon.

Rhoddwyd £300,000 o Ddatblygiad Cyfalaf Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol i Lyfrgell Pont-y-pŵl yn 2011 a rhoddwyd £100,000 pan symudwyd Llyfrgell Blaenafon i Ganolfan Treftadaeth y Byd yn 2015.

Bydd y gwaith o ailwampio Llyfrgell Cwmbrân yn rhan o gynlluniau ehangach i wella Tŷ Gwent dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Eich cwestiynau

Os ydych chi'n defnyddio'r Llyfrgell, bydd gennych gwestiynau am ble i gael gafael ar lyfrau, cymorth, a mwy, tra bod y Llyfrgell ar gau dros dro. Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin am gau’r Llyfrgell dros dro.

Os oes gennych gwestiwn o hyd, cofiwch ei bostio yn yr adran Eich cwestiynau ar y dudalen hon a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

AM DDIM- hen ddodrefn a chypyrddau llyfrau

Fel rhan o'r gwaith adnewyddu byddwn yn cael cypyrddau llyfrau a chadeiriau newydd. Felly hoffem ddod o hyd i gartrefi da ar gyfer yr hen offer. Os hoffech wneud cais am unrhyw rhai o'r eitemau hyn AM DDIM ar gyfer grŵp cymunedol neu ysgol, edrychwch ar y ffurflen isod a'i chwblhau cyn gynted â phosibl.

Rhoddir yr eitemau ar sail y cyntaf i’r felin (Gallwn gadarnhau hyn yn ôl yr amser a'r dyddiad y bydd pob person yn llenwi ei ffurflen).

Cysylltir â'r rhai sy'n llwyddiannus a rhaid iddynt drefnu i gasglu’r eitemau yn ystod wythnos 24 Chwefror, neu bydd yr eitemau'n cael eu rhoi i rywun arall.

Os hoffech weld yr eitemau ymlaen llaw. e-bostiwch stephanie.morgan@torfaen.gov.uk pan fyddwch chi wedi llenwi’r ffurflen isod.

Uchod: y cynllun arfaethedig

  • AM DDIM- hen ddodrefn a chypyrddau llyfrau

    Take Survey
    Rhannu DODREFN AM DDIM ar Facebook Rhannu DODREFN AM DDIM Ar Twitter Rhannu DODREFN AM DDIM Ar LinkedIn E-bost DODREFN AM DDIM dolen
Diweddaru: 29 Jan 2025, 07:51 PM