Ein gweledigaeth

    Erbyn 2034, bydd Tref Cwmbrân yn hwb sy’n bwysig yn economaidd ac sy'n lledaenu ffyniant ar draws y Fwrdeistref a'r rhanbarth: esiampl o dwf cynaliadwy a chynhwysol a llesiant cymunedol sy’n cael eu gyrru gan fusnesau lleol a sylfaenol. 

    Bydd canol y dref wedi arallgyfeirio i gael ei ddefnyddio mewn cyfuniad ehangach o ffyrdd – preswyl, cymunedol, iechyd, bwyd a hamdden – ar draws yr economi yn ystod y dydd a gyda’r hwyr. 

    Bydd Cwmbrân wedi ei chysylltu’n well â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ehangach, gyda thrafnidiaeth gynaliadwy sy'n annog integreiddio moddau. 

    Bydd buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd wedi creu canol tref mwy deniadol sy'n amgylcheddol gydnerth ac sy'n gyrru ein huchelgeisiau carbon sero net.