Cynllun Creu Lle Cwmbrân
Adfywio Canol Tref Cwmbrân
Mae pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghwmbrân yn cael eu hannog i achub ar y cyfle i roi eu barn am Gynllun Creu Lle uchelgeisiol a chyffrous i Ganol Tref Cwmbrân.
Beth yw’r Cynllun Creu Lle?
Nod y Cynllun Creu Lle yw gwella a ffurfio dyfodol canol y dref, gan ei wneud yn lle gwell i fyw, gweithio a buddsoddi ynddo.
Nod y Cynllun Creu Lle yw rhoi cynllun buddsoddiad sy’n llywio ailddatblygiad canol y dref i’r cyngor a’i bartneriaid gyda’r bwriad o’i gwneud yn fwy llwyddiannus, yn fwy gwydn ac yn abl i fodloni anghenion y gymuned a busnesau, nawr ac yn y dyfodol.
Yn weledigaethol ei ddull, gydag amcanion strategol sy’n ceisio dod a newid go iawn, mae’r cynllun yn mynd i’r afael â heriau allweddol ac yn gosod dyheadau buddsoddiad dros y 10 mlynedd nesaf o 2024-2034. Mae’r cynllun yn cynnwys cymysgedd o gynigion am brosiectau sy’n amrywio o weithgaredd cyn-datblygiad o brosiectau sy’n barod i gychwyn a gweithredu dros y tymor byr, canolig a hir mewn partneriaeth â’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector.
Dyddiad cau’r ymgynghoriad
Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 5pm ddydd Llun 9 Rhagfyr 2024.
Sut mae dweud eich dweud a rhoi syniadau?
I gymryd rhan, darllenwch ddogfennau’r ymgynghoriad a chymerwch ran yn yr arolwg isod.
Rydym hefyd am wybod a oes unrhyw beth yr ydym wedi ei fethu. I rannu’r syniadau yma gyda ni, defnyddiwch y ‘Bwrdd Syniadau’ isod.
Sesiynau galw-heibio wyneb yn wyneb
Dewch i ddarganfod mwy ac i ddweud eich dweud yn y sesiynau galw-heibio canlynol:
Dydd Mercher 27 Tachwedd yn Gwent Square, Cwmbrân - 11am hyd 6:30pm
Dydd Iau 28 Tachwedd yn Llyfrgell Cwmbrân - 11am hyd 6:30pm
Os hoffech drafod y prosiect hwn yn Gymraeg yn un o'r digwyddiadau wyneb yn wyneb, rhowch wybod i ni heb fod yn hwyrach na thri diwrnod cyn y digwyddiad y dymunwch ddod iddo – anfonwch neges e-bost atom i ddweud pa ddigwyddiad y byddwch yn dod iddo: GetInvolved@torfaen.gov.uk
Bydd arddangosfa yn Llyfrgell Cwmbrân trwy gydol yr ymgynghoriad yn ystod oriau agor arferol.
Bydd copi cyfeirio o'r ddogfen lawn, crynodebau dwyieithog a chopïau caled dwyieithog o’r holiadur ar gael yn y Llyfrgell hefyd.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, bydd Tîm Adfywio’r cyngor yn dadansoddi’r atebion a’r sylwadau, ac yna’n ystyried eu heffaith ar y Cynllun Creu Lle.
Bydd ymatebion a sylwadau unigol yn rhan o adroddiad a gaiff ei gyflwyno i’r Cyngor llawn yn Ionawr 2025.
If you would like to take part in this survey in English, please click https://getinvolved.torfaen.gov.uk