Cwestiynau Cyffredin: Democratiaeth yn Nhorfaen
A allaf fynychu cyfarfodydd y cyngor?
Gall aelodau'r cyhoedd fynychu holl gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Trwyddedu, y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Moeseg a Safonau, ac eithrio pan fydd gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth sy’n cael ei heithrio yn debygol o gael ei datgelu.
A allaf weld dogfennau’r Cyngor?
Gall aelodau'r cyhoedd weld papurau agenda a phapurau cefndir ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, y Pwyllgorau Cynllunio a Thrwyddedu, y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Moeseg a Safonau a lle bo'n briodol weld unrhyw gofnodion o'r penderfyniadau a wneir, ac eithrio pan fydd gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth sy’n cael ei heithrio yn debygol o gael ei datgelu. Gellir gweld yr holl ddogfennau sydd ar gael yn y Cyfeiriadur Pwyllgorau (dolen allanol).
A allaf siarad yng nghyfarfodydd y cyngor?
Gall aelodau'r cyhoedd fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a siarad os ydynt wedi gwrthwynebu'n ysgrifenedig i gais cynllunio sy'n cael ei ystyried. Mae’r daflen dweud eich dweud mewn pwyllgor cynllunio (dolen allanol) yn egluro sut i wneud hyn. Gall aelodau'r cyhoedd siarad mewn Gwrandawiadau Panel Trwyddedu os ydynt wedi gwrthwynebu'n ysgrifenedig i gais Trwyddedu sy'n cael ei ystyried. Gall aelodau'r cyhoedd hefyd siarad mewn cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu, ond dim ond ar wahoddiad y Cadeirydd.
A allaf weld Rhaglenni Gwaith?
Gall aelodau'r cyhoedd archwilio blaenraglenni gwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, i weld amserlen y cyfarfodydd.
Gall Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wahodd pobl a sefydliadau i gynnig sylwadau am y ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd a sut y gellir gwella pethau. Un o'r heriau mwyaf i bwyllgorau craffu yw ennyn mwy o ddiddordeb yn y broses, trwy ddangos y gall craffu effeithiol wneud gwahaniaeth go iawn.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd ac Aelodau.
Mae'r Cyngor hefyd yn cyhoeddi Blaengynllun Gweithredol (Dolen allanol) yn nodi penderfyniadau allweddol sydd angen eu gwneud, y gellir hefyd eu gweld ar ein gwefan.
A allaf ofyn cwestiwn neu gyflwyno deiseb yn un o gyfarfodydd y cyngor?
Gall aelodau'r cyhoedd sy'n byw a/neu sy'n gweithio yn Nhorfaen a chynrychiolwyr sefydliadau perthnasol sydd wedi'u lleoli yn Nhorfaen, ofyn cwestiynau neu gyflwyno deisebau yng nghyfarfodydd y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod cyfraniadau pobl leol ac yn eu gwerthfawrogi. Mae cyfranogiad y cyhoedd yn hanfodol i sicrhau bod anghenion a dyheadau pobl leol wrth wraidd gwneud penderfyniadau.
Rydym am glywed gan bobl sy'n astudio, byw, gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau'r Cyngor am y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae deisebau ac e-ddeisebau yn un ffordd y gall pobl fynegi eu gofidion ac maent yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wrando ar farn y cyhoedd a mynd i’r afael â nhw.
Gellir cyflwyno deisebau i gyfarfod y Cyngor llawn. Mae dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor llawn(Dolen allanol) ar gael yma.
Gellir anfon Deisebau Papur atom i'r cyfeiriad canlynol: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Glantorfaen Road, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 6YB – e-bost: DemocraticServices@torfaen.gov.uk (dolen allanol)
Sut ydw i'n cyflwyno deiseb?
Gellir creu, llofnodi a chyflwyno e-ddeisebau ar-lein (dolen allanol)
Os hoffech gyflwyno'ch deiseb i'r Cyngor llawn, cysylltwch â'ch cynghorydd lleol a fydd yn noddi eich deiseb a hefyd yn ei chyflwyno ar eich rhan os nad ydych yn dymuno cyflwyno'ch deiseb yn bersonol. Gallwch gysylltu â'r Gwasanaethau Democrataidd trwy eu cyfeiriad e-bost DemocraticServices@torfaen.gov.uk (dolen allanol) neu drwy ffonio (01495 762200 a gofyn i siarad ag aelod o’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd) i gael arweiniad ar y broses.
Mae copi o’r Cynllun Deisebau (Dolen allanol) sydd wedi ei fabwysiadu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gael yma.