Cwestiynau Cyffredin: Democratiaeth yn Nhorfaen
Dyma rhai cwestiynau cyffredin am sut y gallwch gymryd rhan yng nghyfarfodydd y cyngor a democratiaeth leol:
Croesawir y cyhoedd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a gellir gwneud hyn yn y ffyrdd a ganlyn:
A all aelodau'r cyhoedd fynychu holl gyfarfodydd y Cyngor?
Gall aelodau'r cyhoedd fynychu holl gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Trwyddedu, y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Moeseg a Safonau, ac eithrio pan fydd gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth sy’n cael ei heithrio yn debygol o gael ei datgelu.
A all aelodau'r cyhoedd weld dogfennau'r Cyngor?
Gall aelodau'r cyhoedd weld papurau agenda a phapurau cefndir ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, y Pwyllgorau Cynllunio a Thrwyddedu, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Pwyllgor Moeseg a Safonau a lle bo'n briodol gallant weld unrhyw gofnodion o'r penderfyniadau a wnaed, ac eithrio pan fydd gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth sy’n cael ei heithrio yn debygol o gael ei datgelu. Gellir gweld yr holl ddogfennau sydd ar gael yn y Cyfeiriadur Pwyllgorau.
A all aelodau'r cyhoedd wylio cyfarfodydd ar-lein?
Gall aelodau'r cyhoedd wylio cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, y Pwyllgor Cynllunio neu'r Pwyllgor Trwyddedu – boed yn fyw neu ar ôl i'r cyfarfod ddod i ben – drwy ein gwe-ddarllediad.
A all aelodau o'r cyhoedd siarad yn rhai o gyfarfodydd y Cyngor?
Gall aelodau'r cyhoedd fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a siarad os ydynt wedi gwrthwynebu'n ysgrifenedig i gais cynllunio sy'n cael ei ystyried. Mae’r daflen dweud eich dweud mewn pwyllgorau cynllunio yn egluro sut i wneud hyn. Gall aelodau'r cyhoedd siarad mewn Gwrandawiadau Panel Trwyddedu os ydynt wedi gwrthwynebu'n ysgrifenedig i gais Trwyddedu sy'n cael ei ystyried. Gall aelodau o'r cyhoedd hefyd siarad mewn cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu, ond trwy wahoddiad y Cadeirydd yn unig. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am brotocol Cyfranogiad y Cyhoedd mewn Materion Craffu.
A all aelodau'r cyhoedd weld Rhaglenni Gwaith?
Gall aelodau'r cyhoedd archwilio blaenraglenni gwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, i weld amserlen y cyfarfodydd. Gall Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wahodd pobl a sefydliadau i gynnig sylwadau am y ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd a sut y gellir gwella pethau. Un o'r heriau mwyaf i bwyllgorau craffu yw cael mwy o ddiddordeb yn y broses, trwy ddangos y gall craffu effeithiol wneud gwir wahaniaeth. I gael mwy o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd ac Aelodau.
Mae'r Cyngor hefyd yn cyhoeddi Blaengynllun Gweithredol sy’n nodi’r penderfyniadau allweddol sydd angen eu gwneud. Gellir hefyd eu gweld ar ein gwefan.
A all aelodau o'r cyhoedd ofyn cwestiynau neu gyflwyno deisebau yng nghyfarfodydd y Cyngor?
Gall aelodau'r cyhoedd sy'n byw a/neu sy'n gweithio yn Nhorfaen a chynrychiolwyr sefydliadau perthnasol sydd wedi'u lleoli yn Nhorfaen ofyn cwestiynau neu gyflwyno deisebau yng nghyfarfodydd y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod cyfraniadau pobl leol ac yn eu gwerthfawrogi. Mae cyfranogiad y cyhoedd yn hanfodol i sicrhau bod anghenion a dyheadau pobl leol wrth wraidd y broses benderfynu.
Rydym am glywed gan bobl sy'n astudio, byw, gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae deisebau ac e-ddeisebau yn un ffordd y gall pobl fynegi eu gofidion ac maent yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wrando ar farn y cyhoedd a mynd i’r afael â nhw.
Sut all aelodau'r cyhoedd gyflwyno deiseb?
Gellir cyflwyno deisebau i gyfarfod y Cyngor llawn. Mae dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor llawn ar gael yma.
Gellir anfon Deisebau Papur atom i'r cyfeiriad canlynol: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Glantorfaen Road, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 6YB – E-bost: DemocraticServices@torfaen.gov.uk
Gellir creu, llofnodi a chyflwyno e-ddeisebau ar-lein
Os hoffech gyflwyno'ch deiseb i'r Cyngor llawn, cysylltwch â'ch cynghorydd lleol a fydd yn noddi eich deiseb a hefyd yn ei chyflwyno ar eich rhan os nad ydych yn dymuno cyflwyno'ch deiseb yn bersonol. Gallwch gysylltu â'r Gwasanaethau Democrataidd trwy eu cyfeiriad e-bost DemocraticServices@torfaen.gov.uk neu drwy ffonio (01495 762200 a gofyn i siarad ag aelod o’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd) i gael arweiniad ar y broses.
Mae copi o’r Cynllun Deisebau sydd wedi ei fabwysiadu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gael yma.
Gyda pwy ydw i'n cysylltu i gael rhagor o wybodaeth?
I gael rhagor o wybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd yn y cyfarfodydd yn Nhorfaen, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd ac Aelodau ar 742163 neu 766057.