Rhannu Ymgynghoriad ar Bolisi Trwyddedu 2025 ar FacebookRhannu Ymgynghoriad ar Bolisi Trwyddedu 2025 Ar TwitterRhannu Ymgynghoriad ar Bolisi Trwyddedu 2025 Ar LinkedInE-bost Ymgynghoriad ar Bolisi Trwyddedu 2025 dolen
Rhaid i'r cyngor adolygu ei Bolisi Trwyddedu bob 5 mlynedd. Mae’r polisi hwn ar fin cael ei adnewyddu a hoffem wybod beth yw eich barn am fersiwn ddrafft ddiwygiedig.
Mae'r polisi yn nodi sut mae'r awdurdod yn rheoleiddio busnesau perthnasol, yn manylu ar sut y dylai busnesau weithredu ac yn llywio sut mae'r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol. Rhoddir cyngor hefyd mewn perthynas â cheisiadau.
Sut i rannu eich adborth
Os hoffech wneud unrhyw sylwadau am y polisi drafft diwygiedig (y gellir ei ddarllen ar y dudalen hon), gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost i licensing@torfaen.gov.uk neu i ‘Trwyddedu’, CBST, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl NP4 6YB. Rhaid derbyn sylwadau erbyn 4pm ddydd Gwener 5 Medi 2025 fan bellaf.
Fel arall, gallwch ychwanegu eich adborth i'r ffurflen fer ar y dudalen hon erbyn hanner nos ddydd Gwener 5 Medi, 2025 fan bellaf.
Bydd yr holl sylwadau a ddaw i law yn cael eu hystyried cyn cymeradwyo fersiwn derfynol.