Helpwch i lunio ein Strategaeth Bwyd
Mae Partneriaeth Bwyd Torfaen* yn dechrau datblygu strategaeth bwyd cynaliadwy i’r fwrdeistref. Byddem yn gwerthfawrogi’ch help i sicrhau ei bod yn adlewyrchu’n gywir heriau a chyfleoedd y gymuned.
Trwy gwblhau’r arolwg, byddwch yn helpu i greu strategaeth a fydd yn ceisio mynd i’r afael â materion allweddol mewn perthynas â diogelwch bwyd (gan gynnwys mynediad at fwyd fforddiadwy, iach), iechyd a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Bydd eich adborth yn allweddol wrth lunio strategaeth sydd nid yn unig yn hyrwyddo bwyta’n iach, ond sydd hefyd yn cefnogi busnesau bwyd lleol ac yn lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu bwyd a’i fwyta.
Mae pwysigrwydd y strategaeth hon yn ei ymagwedd gynhwysfawr o wella lles trigolion Torfaen. Ei nod yw sicrhau fod modd i bawb gael bwyd fforddiadwy, maethlon, gan feithrin economi bwyd gynaliadwy ar yr un pryd.
Bydd y strategaeth yn gweithio ochr yn ochr â nodau ehangach y fwrdeistref o leihau anghydraddoldebau iechyd, cefnogi busnesau lleol a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol. Trwy osod nodau ac uchelgeisiau eglur, mae Partneriaeth Bwyd Torfaen yn gobeithio creu system fwyd cydnerth sydd o fudd i bobl a’r blaned fel ei gilydd.
Rhowch eich barn trwy gwblhau’r ffurflen hon erbyn hanner dydd, Ddydd Gwener, 11 Tachwedd, 2024.
DEWCH I GWRDD Â’R TÎM PARTNERIAETH BWYD
Am wybod mwy neu am gwblhau arolwg ar bapur? Dewch i sgwrsio â’r tîm partneriaeth bwyd yn y mannau canlynol:
19ain Hydref (10-2) Marchnad Cwmbrân
22ain Hydref (10-2) Siop Torfaen yn Gweithio (Cwmbrân)
26ain Hydref (10-2) Digwyddiad Calan Gaeaf Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
28ain Hydref (10-2) Digwyddiad Lles (10am - 2pm Clwb Cyfansoddiadol Blaenafon, James Street, Blaenafon, NP4 9EJ)
9fed Tachwedd (10-2) Neuadd Gweithwyr Blaenafon – Diwrnod i’r Teulu
Ni yw’r Tîm Gwydnwch Bwyd. Ein nod yw cynyddu’r bwyd fforddiadwy sy’n cael ei gynhyrchu yn y fwrdeistref.
- Gall cyflenwad bwyd gwydn hefyd gynnig cyfleoedd am atebion tymor hir i dlodi bwyd, fel perllannau cymunedol a chynlluniau rhandiroedd. Rydym yn cynnal Partneriaeth Bwyd arobryn Torfaen ac yn cynnal digwyddiad Cynhadledd Bwyd Torfaen yn flynyddol.
- Darparu grantiau Cynlluniau Bwyd Cymunedol i grwpiau trydydd sector ac ysgolion ddatblygu atebion cynaliadwy i dlodi bwyd.
- Darparu grantiau i fusnesau lleol i’w galluogi i ychwanegu gwerth i gynnyrch presennol neu arallgyfeirio.
Sut y bydd canlyniadau’r strategaeth hon yn cael eu defnyddio
Bydd canlyniadau’r strategaeth hon yn goleuo’r strategaeth ddrafft a fydd wedyn yn destun ymgynghoriad cyn i’r Strategaeth gael ei chyflwyno i gynghorwyr i’w mabwysiadu yn gynnar yn 2025
Ynglŷn â Phartneriaeth Bwyd Torfaen
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Torfaen, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Tai Cymunedol Bron Afon, Tasty Not Wasty, Ymddiriedolaeth Trussell, FairShare Cymru a Sero Gwastraff Cymru. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma(Dolen Allanol).
Am wybodaeth am Food4Growth cliciwch yma(Dolen Allanol)