Chwaraeon, ffitrwydd a hamdden
MAE'R YMGYNGHORIAD HWN BELLACH AR GAU
Rhowch wybod i ni pa weithgareddau chwaraeon, hamdden neu ffitrwydd, os oes rhai, yr ydych yn cymryd rhan ynddynt.
Hefyd, rhowch wybod i ni ble rydych chi’n teimlo y gallai’r mathau o weithgareddau a pha mor rhwydd maen nhw ar gael, fod yn well.
Darllenwch trwy’r wybodaeth isod, yna cwblhewch yr arolwg byr isod.
Bydd yr arolwg yn cau am hanner dydd, ddydd Llun, 4 Tachwedd, 2024.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn bwydo’r Strategaeth Lles Cymunedau, Chwaraeon a Hamdden, a fydd yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor yn Rhagfyr. Bydd diweddariad ar y dudalen prosiect hon a bydd dolen yn cael ei danfon i bawb sydd wedi cofrestru â Chymryd Rhan ar ôl i hyn ddigwydd.
Ynglŷn â’r strategaeth
Rydym am ei wneud yn haws i chi, drigolion Torfaen, i gael cyfleoedd hamdden mor rhwydd â phosibl. Hefyd, rydym yn credu mewn rhoi cyfleoedd i ragori i’r rheiny â thalent eithriadol mewn campau.
Ac, yn bwysig, rydym am hyrwyddo effaith cadarnhaol chwaraeon a hamdden ar les.
Fel rhan o Strategaeth Lles Cymunedol y cyngor, rydym ni am wneud Torfaen yn gyrchfan hamdden. Mae hyn yn golygu cynnig cyfleusterau cydgysylltiedig o ansawdd uchel a’n tirwedd naturiol sy’n dod ag ymwelwyr i’r fwrdeistref ar gyfer hamdden, twrnameintiau a chystadlaethau.
Byddai rhan o hyn yn cynnwys cefnogi ein clybiau chwaraeon fel eu bod yn gyrru cyfranogiad cadarnhaol mewn chwaraeon gan fod yn hybiau cymunedol yr un pryd. Rydym hefyd am gael y cyfleusterau iawn yn y mannau iawn.