Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect

Helpwch i greu Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Torfaen 2024-2028

Taclo Anghydraddoldeb yn Nhorfaen – Helpwch i greu Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Torfaen 

Pwrpas yr ymgynghoriad  yma yw cael eich barn a’ch mewnbwn ar Amcanion Cydraddoldeb Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Bydd hyn yn ein helpu i gynhyrchu a chyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-2028.

Yn ystod yr arolwg yma, byddwn yn gofyn i chi a ydych chi’n cytuno â’n Hamcanion Cydraddoldeb arfaethedig ac a ddylen ni fod yn cynnwys unrhyw beth arall yn ein cynllun.

Sut all Cyngor Torfaen helpu i daclo anghydraddoldeb?  Sut allwn ni wneud yn well?  Beth sydd angen newid? Beth allwn ni wneud yn wahanol i gefnogi staff a chymunedau i deimlo’n ddiogel, yn gynwysedig ac wedi eu parchu?

Byddwn yn defnyddio eich adborth i helpu i ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028, i’w gyhoeddi yn Ebrill 2024.