CRAFFU: Eich awgrymiadau

Rhannu CRAFFU: Eich awgrymiadau ar Facebook Rhannu CRAFFU: Eich awgrymiadau Ar Twitter Rhannu CRAFFU: Eich awgrymiadau Ar LinkedIn E-bost CRAFFU: Eich awgrymiadau dolen

Bob blwyddyn, fel arfer ar ddechrau'r flwyddyn ddinesig (Mai/Mehefin), rhaid i bob pwyllgor trosolwg a chraffu osod a chyhoeddi ei raglen waith, gan nodi rhestr o eitemau dethol y maent yn dymuno craffu arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod.

Gelwir y sesiwn hon yn "Sesiwn Creu Gweledigaeth”.

Mae ystod eang o wybodaeth megis data perfformiad, dadansoddiad risg, argymhellion arolygiadau allanol a'r Blaengynllun Gweithredol yn cael ei ystyried gan aelodau wrth flaenoriaethu eu rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae'r rhaglen waith ar gyfer pob pwyllgor ar gyfer y flwyddyn graffu bresennol i'w gweld ar dudalen y cyngor https://www.torfaen.gov.uk/cy/AboutTheCouncil/CouncillorsAndDemocracy/Overview-and-Scrutiny/Overview-and-Scrutiny.aspx

Un o'r darnau pwysicaf o wybodaeth a ystyrir, yw awgrymiadau gan y cyhoedd. Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i awgrymu eitemau i'w craffu ar unrhyw adeg trwy'r Ffurflen Awgrymu Eitem ar gyfer Craffu ar ein tudalen we: https://www.torfaen.gov.uk/cy/Forms/Others/Suggest-an-item-for-Scrutiny.aspx

Bydd aelodau'n ymgymryd â'r rownd nesaf o sesiynau rhaglennu gwaith dros bythefnos cyntaf Gorffennaf 2025.

Byddai aelodau'r pwyllgor yn croesawu eich awgrymiadau neu eich sylwadau ar yr hyn yr hoffech eu gweld yn craffu arno yn y flwyddyn i ddod.

Ychwanegwch eich awgrym drwy'r Bwrdd Syniadau ar y dudalen hon neu gallwch e-bostioscrutiny@torfaen.gov.uk

Anfonwch eich awgrymiadau erbyn dydd Mercher 18fed Mehefin 2025

Diweddaru: 14 Mai 2025, 02:47 PM