Rhannu Arolwg prydlesau cyfleusterau chwaraeon ar FacebookRhannu Arolwg prydlesau cyfleusterau chwaraeon Ar TwitterRhannu Arolwg prydlesau cyfleusterau chwaraeon Ar LinkedInE-bost Arolwg prydlesau cyfleusterau chwaraeon dolen
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cydnabod bod ganddo rôl allweddol wrth gefnogi rhyngweithio cymdeithasol a gweithgarwch corfforol drwy ddarparu amrywiaeth o adeiladau cymunedol, cyfleusterau hamdden, chwaraeon a chymunedol, gan gydweithio â chlybiau, cymdeithasau, sefydliadau a grwpiau lleol i ddiwallu anghenion a diddordebau trigolion lleol.
Mae llawer o'r trefniadau a wnaed ar gyfer prydlesu cyfleusterau chwaraeon a neuaddau cymunedol yn Nhorfaen yn hanesyddol. Dros amser mae hyn wedi arwain at wahanol drefniadau prydlesu a chwestiynau am gysondeb, cydraddoldeb a gwerth am arian wrth ddefnyddio asedau sy'n eiddo i'r cyngor.
Mae gofyn i glybiau chwaraeon sydd angen defnydd unigol o dir Torfaen ar gyfer chwaraeon o dan brydles neu gytundeb trwyddedu, os bydd tir ar gael, gyflwyno cais i’r cyngor i gael eu hychwanegu at y Rhestr Aros Cyfleusterau Chwaraeon. Mae manylion pellach y drefn yn y Polisi isod:
Hoffai Cyngor Torfaen ofyn i glybiau chwaraeon lleol am eu barn ar y polisi cyfredol a sut mae’r rhestr aros yn gweithredu.
Cwblhewch yr arolwg byr ar y dudalen hon os gwelwch yn dda. Bydd eich atebion yn ein helpu i adolygu’r gwasanaeth presennol ac yn caniatáu i ni wneud y newidiadau priodol y mae eu hangen.