
Arolwg Archifau Gwent 2025
Mae Archifau Gwent yn ystyried adolygu ei oriau agor, a'r amser y mae'n ei neilltuo ar gyfer catalogio'r casgliadau archif a datblygu gwasanaethau digidol fel bod mwy o wybodaeth am y casgliadau ar gael i gwsmeriaid.
Er mwyn helpu i benderfynu ar yr oriau newydd, byddai'r tîm yn gwerthfawrogi eich adborth ar bryd y byddech chi'n ei chael hi'n gyfleus i ymweld. Mae yna gwestiynau hefyd ynglŷn â chau amser cinio ac 'Wythnosau Casgliadau'.
Darllenwch y cwestiynau atodedig yn yr arolwg, a rhannwch eich barn.
Diolch.