Cŵn a mannau cyhoeddus – Arolwg GDMC Mae yna dri Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) yn Nhorfaen ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid eu hadolygu pob tair blynedd: - Baw cŵn: GDMC ledled y fwrdeistref gyfan yw hwn, ac mae’n drosedd methu â gwaredu baw cŵn o unrhyw dir y gall y cyhoedd fynd iddo.
- Mannau Gwahardd Cŵn: Mae yna 140 o ardaloedd yn y fwrdeistref ble mae cŵn wedi eu gwahardd, gan gynnwys tiroedd ysgolion, mannau chwarae plant a chaeau chwaraeon wedi eu marcio. Mae cŵn wedi eu gwahardd hefyd o fan bridio’r cornchwiglod wrth Warchodfa Natur Llynnoedd y Garn.
- Mannau Cŵn ar Dennyn: Mae’n drosedd hefyd gadael ci oddi ar dennyn mewn mannau penodedig, gan gynnwys Llynnoedd y Garn, Llyn Cychod Cwmbrân a holl fynwentydd y Cyngor.
Rhowch eich barn yn yr arolwg byr isod |