Rhannu Ymgynghoriad campfa awyr agored Cwmbrân ar FacebookRhannu Ymgynghoriad campfa awyr agored Cwmbrân Ar TwitterRhannu Ymgynghoriad campfa awyr agored Cwmbrân Ar LinkedInE-bost Ymgynghoriad campfa awyr agored Cwmbrân dolen
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach ar gau
Rydym wedi sicrhau cyllid i wella campfa awyr agored Cwmbrân, wrth ymyl llwybr troed North Fields (ardal hamdden ganolog), ger Clwb Olive Tree, yng Nghroesyceiliog.
Byddai Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn talu am gost y gwaith.
Cafodd offer y gampfa ei osod dros ddegawd yn ôl ac mae’n cynnwys naw ardal ymarfer corff (mae rhai ohonynt i’w gweld yn y prif luniau uchod), yn cynnwys ardaloedd sy’n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae’r ymgynghoriad yn cau am 5pm ar 22/03/24.
Byddai'n costio swm tebyg i gynnal, cadw a thrwsio'r offer presennol, ond byddai modd defnyddio'r arian hwnnw i osod darnau o offer newydd yn lle'r hen offer. Byddai modd gosod yr offer newydd yn y lleoliad presennol neu mewn ardal wahanol gerllaw. Edrychwch ar y mapiau o North Fields a South Fields, i weld ardal y safleoedd posibl (wedi'u nodi gan flwch coch).
A fyddech cystal â rhoi gwybod i ni yn yr holiadur byr, pa opsiwn sydd orau gennych. Mae’r ymgynghoriad yn cau am 5pm ar 22/03/24.

Diweddaru: 10 Ebr 2024, 01:04 PM
Y diweddaraf am ymgynghoriad campfa awyr agored Cwmbrân.