Ymgynghoriad ar doiledau cyhoeddus - Busnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol
Rhannu Ymgynghoriad ar doiledau cyhoeddus - Busnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol ar FacebookRhannu Ymgynghoriad ar doiledau cyhoeddus - Busnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol Ar TwitterRhannu Ymgynghoriad ar doiledau cyhoeddus - Busnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol Ar LinkedInE-bost Ymgynghoriad ar doiledau cyhoeddus - Busnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol dolen
Mae’r holiadur byr hwn yn benodol i fusnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol sydd â thoiledau.A wnewch chi ateb yr holiadur hyd yn oed os yw eich toiledau ar gyfer cwsmeriaid neu ddefnyddwyr gwasanaethau yn unig, oherwydd rydyn ni eisiau deall unrhyw rwystrau sy’n atal y cyhoedd rhag defnyddio eich toiledau.
Mae argaeledd toiledau addas yn hanfodol i lawer o drigolion Torfaen ac i ymwelwyr sy’n dod yma, ac mae’n ystyriaeth bwysig ar gyfer iechyd y cyhoedd.
Er mwyn helpu Cyngor Torfaen i ddeall y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref yn llawn, hoffem wybod os yw’r cyhoedd yn cael defnyddio’r toiledau yr ydych yn eu darparu yn eich adeilad(au).
Mae toiledau cyhoeddus yn doiledau y mae unrhyw un sydd allan yn y gymuned yn gallu eu defnyddio hebiddyntorfod bod yn gwsmer i fusnes. Nid yw’r term yn cynnwys toiledau sydd wedi eu dynodi’n benodol fel 'toiledau i gwsmeriaid’, neu os nad yw perchennog y busnes/adeilad yn croesawu’r syniad fod pobl yn galw i mewn i ddefnyddio’r toiled heb wario arian.
Bydd eich adborth yn ein helpu i ddiweddaru’r Strategaeth Toiledau Lleol i Dorfaen a, gobeithio, yn arwain at ddigon o fynediad i sicrhau bod pobl yn teimlo’n hyderus fod y seilwaith yn bodoli er mwyn iddynt allu siopa, cymdeithasu a defnyddio gwasanaethau heb boeni am argaeledd toiledau a/neu gyfleusterau newid addas.
Mae’r rhestr ddiweddaraf o doiledau â mynediad cyhoeddus – y mae angen ei hadolygu – ar wefan y Cyngor. Mae pob un o’r busnesau a’r sefydliadau sydd wedi eu rhestru wedi dweud wrth swyddogion y Cyngor yn 2018-19 eu bod yn hapus i bobl alw heibio i ddefnyddio’r toiled.
Ar gyfer yr ymgynghoriad hwn:
gallai toiledau cyhoeddus gynnwys cyfleusterau newid i fabanod a chyfleusterau i bobl ag anableddau, gan gynnwys Toiledau Changing Places.
gall y toiledau fod mewn adeiladau/busnesau preifat, mewn adeiladau cyhoeddus fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymuned, canolfannau siopa, garejys, parciau a thoiledau cyhoeddus eraill y mae’r Cyngor yn eu cynnal.
Beth sy’n Digwydd Nesaf?
Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu defnyddio i adolygu’r Strategaeth Toiledau Lleol sy’n ofyniad statudol ar yr Awdurdod Lleol. Bydd eich ymatebion yn ein galluogi i asesu’r ddarpariaeth, i ddiweddaru gwybodaeth gyhoeddus ac i alluogi Aelodau Etholedig i ystyried unrhyw bosibiliadau ar gyfer cynyddu mynediad i doiledau.

Rhannu Ymgynghoriad ar doiledau cyhoeddus:
Busnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol ar FacebookRhannu Ymgynghoriad ar doiledau cyhoeddus:
Busnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol Ar TwitterRhannu Ymgynghoriad ar doiledau cyhoeddus:
Busnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol Ar LinkedInE-bost Ymgynghoriad ar doiledau cyhoeddus:
Busnesau, sefydliadau a chyfleusterau cymunedol dolen