Teithio Llesol - South Street, Sebastopol Gwella’r Man Croesi
Consultation has concluded
GWELLA MAN CROESI SOUTH STREET SEBASTOPOL
Cynnig
Gwella'r groesfan sebra i greu croesfan twcan ar South Street Sebastopol.
Llenwch yr arolwg byr isod i roi gwybod i ni os ydych chi’n cytuno â’r cynnig hwn (gweler y map isod). Mae’r arolwg yn cau am 5pm, 12 Tachwedd 2024
Pam mae hyn yn cael ei wneud?
Gwella diogelwch i’r bobl sy’n ei ddefnyddio a chreu cyfleusterau i seiclwyr groesi. Ar hyn o bryd nid yw pawb sy’n cerdded neu’n seiclo yn edrych cyn symud allan i’r ffordd, weithiau’n sydyn iawn, gan roi ychydig neu ddim rhybudd o gwbl i yrwyr. Bydd croesfan twcan yn dangos signalau coch a gwyrdd i bawb, a fydd yn gwella ymddygiad ac yn lleihau risg.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng croesfan sebra a chroesfan twcan?
Mae croesfannau sebra i gerddwyr ac mae ganddynt streipiau du a gwyn. Bob ochr, mae globau ambr sy’n fflachio wedi eu gosod ar byst du a gwyn – gelwir y rhain yn oleuadau croesi. Nid oes ganddynt signalau golau i reoli llif traffig. Mae’r groesfan yn rhoi hawl dramwy i gerddwyr pan fyddant yn camu allan i'r ffordd. Dylai seiclwyr ddod oddi ar eu beiciau i groesi ar groesfan sebra ond nid yw’r mwyafrif yn gwneud hynny yn y man hwn.
Mae croesfannau twcan yn cael eu rheoli gan signal. Mae ganddyn nhw “oleuadau traffig” sy’n cael eu rheoli â botwm. Mae croesfannau twcan yn debyg i groesfannau pelican ond mae hefyd ganddynt signal ychwanegol i feiciau. Mae llwybr y gamlas yn llwybr sy’n cael ei rhannu gan gerddwyr a seiclwyr.
A ydych yn cynnig unrhyw newidiadau eraill?
Bydd llwybr y gamlas sy'n nesáu at y palmant wrth ymyl y ffordd yn cael ei ledaenu. Bydd modd gweld ychydig mwy, am fod adeiladau, ffensys a rheiliau yn rhwystro’r gallu i weld ar hyn o bryd. Nid yw’r safle bws yn symud.
Bydd yr wyneb yn cael ei ailosod lle bo angen ger y groesfan.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Donna.Edwards-John@torfaen.gov.uk
Bydd y wybodaeth a'r data personol a roddir gennych yn cael eu dadansoddi gan adran Economi ac Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data (GDPR/Deddf Diogelu Data 2018 y DU).
Peidiwch â rhoi data personol (fel eich enw, rhyw, cod post ayyb) heblaw ei fod yn gofyn yn glir amdano a gwyliwch rhag rhoi unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod mewn blychau testun. I gael mwy o wybodaeth am y ffordd yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth ac i gael gwybod eich hawliau cliciwch yma.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bost.: DPA@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 647467 i gael mwy o wybodaeth.