Ynglŷn â'r pwyllgorau
Beth yw'r pwyllgorau a beth maen nhw'n ei gwmpasu?
Mae gan y Pwyllgor Plant a Theuluoedd bortffolio o faterion sy'n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol Plant gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Ofal Maeth, Darpariaeth Breswyl i Blant, Gwasanaethau Plant Anabl, Plant sy'n Derbyn Gofal a Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid.
Mae'r Pwyllgor Addysg yn ystyried yr holl faterion sy'n gysylltiedig ag ysgolion ac addysg fel Presenoldeb a Gwaharddiadau, Gwella Ysgolion, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Chwarae a Gwasanaeth Ieuenctid.
Mae'r portffolio Oedolion a Chymunedau'n amrywio'n eang gyda phynciau a gwmpesir yn cynnwys Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cymunedau Tai, Diogelwch Cymunedol a Chwsmeriaid a Digidol.
Yr Economi a'r Amgylchedd – Mae materion fel Priffyrdd, yr Amgylchedd a Diogelu, Ailgylchu, Asedau'r Economi ac Eiddo a Chynllunio a Datblygu yng nghylch gorchwyl Pwyllgor yr Economi a'r Amgylchedd.
Mae'r Pwyllgor Adnoddau a Busnes Trawsbynciol nid yn unig yn ystyried materion corfforaethol fel Adnoddau Dynol, Parhad Busnes, Caffael a Refeniw a Budd-daliadau, ond hefyd yn ystyried materion eang, trawsbynciol fel y gyllideb, yr argyfwng newid hinsawdd a Chynllun Sirol y Cyngor.
|