Cwestiynau Cyffredin craffu
- Monitro a chefnogi gwelliant perfformiad y Cyngor.
- Helpu'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau effeithlon, sy'n sensitif i anghenion lleol drwy gynnwys pobl leol.
- Sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn glir, yn dryloyw ac yn atebol.
- Ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a'r gymuned ehangach wrth wneud penderfyniadau.
- Mae'n dal y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gyfrif.
- Mae'n herio, gyda'r nod o wella perfformiad.
- Mae'n cefnogi darparu gwerth am arian.
- Mae'n herio'r ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud.
- Mae'n dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau gydag argymhellion effeithiol sy'n seiliedig ar ganlyniadau.
- Ystyried tystiolaeth a safbwyntiau rhanddeiliaid, defnyddwyr a thrigolion.
- Mae'n ymgymryd â chraffu cyn / ar ôl penderfyniad ar gynigion y Cabinet.
- Pwyllgor TaCh Oedolion a Chymunedau,
- Pwyllgor TaCh Plant a Theuluoedd,
- Pwyllgor TaCh yr Economi a'r Amgylchedd
- Pwyllgor TaCh Addysg a
- Pwyllgor TaCh Adnoddau a Busnes Trawsbynciol
- Mae pob cyfarfod yn agored i'r cyhoedd (oni bai bod materion cyfrinachol yn cael eu trafod)
- Mae'r cyfarfodydd yn hybrid a gall aelodau'r pwyllgor fynychu'n bersonol (yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl) neu ar-lein drwy Teams. Gallwch ddewis gwylio'r ffrwd fyw ar wefan y cyngor https://torfaen.public-i.tv/core/portal/home(Dolen allanol)
- Fel arfer, cynhelir cylchoedd o gyfarfodydd bob 6 wythnos ac fel arfer maen nhw'n yn dechrau am 10am neu 2pm. Mae manylion ar gael ar wefan y Cyngor –www.torfaen.gov.uk(Dolen allanol)
- Mae croeso i aelodau'r cyhoedd ofyn cwestiwn neu gyflwyno tystiolaeth i bwyllgor craffu o fewn amodau'r mesurau a nodir yn y Protocol Cyfranogiad Cyhoeddus mewn Cyfarfodydd Craffu. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Beth yw nodau craffu?
Pam fod craffu'n bwysig?
Yn ogystal â'r uchod, mae Pwyllgorau Craffu yn cydnabod arfer da a pherfformiad da.
Pa Gomisiynau Archwilio sy'n rhedeg yn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen?
Mae pum Pwyllgor Craffu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen:
Mae pwyllgorau'n wleidyddol gytbwys gyda naw aelod, ac eithrio'r Pwyllgor Adnoddau a Busnes Trawsbynciol ble mae holl aelodau'r fainc gefn (anweithredol) yn cael eu penodi i wasanaethu arno.
Mae'r Pwyllgor TaCh Addysg hefyd yn cynnwys pum aelod cyfetholedig sy'n cynrychioli'r Eglwys Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru a rhiant-lywodraethwyr.
A allaf fynychu cyfarfod craffu a ble a phryd maen nhw'n cael eu cynnal?
Sut allaf i gael agendâu a chofnodion pwyllgorau craffu?
Mae papurau ar gael ar wefan y Cyngor: https://moderngov.torfaen.gov.uk/mgListCommittees.aspx(Dolen allanol)
Sut allaf i gymryd rhan mewn craffu?
Mae craffu yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gymryd rhan ym mhrosesau democrataidd y Cyngor. Os hoffech wneud cais i ofyn cwestiwn mewn Pwyllgor Craffu, cwblhewch y ffurflen briodol sydd ar gael yma.
Fel arall, gallwch gysylltu â'r Tîm Cymorth Craffu scrutiny@torfaen.gov.uk(Dolen allanol) Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unol â phrotocol y cytunwyd arno. Os yw Cadeirydd y Pwyllgor yn cytuno i ystyried y mater, byddwch yn cael eich hysbysu am y broses sydd i'w chynnal a dyddiad y cyfarfod.
Beth sy'n digwydd mewn cyfarfod craffu?
Cyfarfodydd ffurfiol o'r Cyngor yw cyfarfodydd y Pwyllgorau Craffu. Gall y Pwyllgor Craffu alw 'tystion arbenigol', gwrando ar ddatganiadau a gofyn cwestiynau i'r tystion hynny. Ym mhob cyfarfod craffu, mae aelodau'r pwyllgor yn ymchwilio i un brif eitem. Ar ôl gorffen eu hymchwiliad, bydd aelodau yn cynnig cyfres o argymhellion i'r Gweithgor