Marchnad Pont-y-pŵl – eich adborth a’ch syniadau

Rhannu Marchnad Pont-y-pŵl – eich adborth a’ch syniadau ar Facebook Rhannu Marchnad Pont-y-pŵl – eich adborth a’ch syniadau Ar Twitter Rhannu Marchnad Pont-y-pŵl – eich adborth a’ch syniadau Ar LinkedIn E-bost Marchnad Pont-y-pŵl – eich adborth a’ch syniadau dolen
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Ar ddiwedd y flwyddyn hon, byddwn yn dathlu 130 mlynedd o Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl yng nghanol y dref.

Mae llawer o bobl leol yn cofio'r farchnad yn ffynnu, gan fynd yno'n wythnosol am eu siopa cyfan. Dros amser, ac yn enwedig ers y pandemig COVID-19, mae arferion siopa wedi newid gyda chanol trefi a marchnadoedd traddodiadol yn dirywio.

Rydym yn y broses o adolygu’r cynllun busnes ar gyfer y farchnad, i edrych ar sut y gallwn ddatblygu’r hyn a gynigir a helpu Marchnad Pont-y-pŵl i barhau i fod yng nghanol y dref a’i chymuned.

Rydym am gynyddu nifer y busnesau yn y farchnad, yn ogystal â nifer yr ymwelwyr - er mwyn annog mwy o bobl i ddod i'r farchnad yn rheolaidd.

Sut gallwch chi helpu

YR AROLWG: Trwy lenwi’r holiadur isod byddwch yn bwydo i mewn i’r cynllun busnes ar gyfer y dyfodol ac yn ein helpu i ddatblygu marchnad gynaliadwy sydd wir o fudd i Bont-y-pŵl a’r sir ehangach am y 130 mlynedd nesaf!

Y BWRDD SYNIADAU: Ar waelod y dudalen hon, wrth yr arolwg mae tab syniadau, cliciwch ar hwn ac ychwanegwch eich syniad. Yna gall pobl eraill bleidleisio ar eich syniad a byddwn yn gallu gweld pa rai yw'r awgrymiadau mwyaf poblogaidd.

Y PÔL CYFLYM: I'r dde ar y dudalen hon mae pôl cyflym, cymerwch funud i roi gwybod i ni beth rydych chi'n ei hoffi fwyaf am Farchnad Pont-y-pŵl.

CWRDD Â’R TÎM

Dewch i ddweud eich dweud yn bersonol. Dewch i gwrdd â thîm y farchnad ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl:

Dydd Mercher 23 Hydref, 10am-2pm.

Dydd Mercher 6 Tachwedd, 10am-2pm.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhedeg o hanner dydd, dydd Mawrth 15 Hydref tan hanner dydd, dydd Gwener 15 Tachwedd.

Beth sy'n digwydd wedi hynny?

Bydd eich syniadau a'ch adborth yn ein helpu i ysgrifennu ein cynllun busnes, a fydd wedyn yn cael ei ystyried gan y cyngor. Edrychwn ymlaen at eich diweddaru yn y flwyddyn newydd.

Diweddaru: 15 Tach 2024, 02:30 PM