Rhannu Strydoedd Ysgol – Arolwg i fusnesau ar FacebookRhannu Strydoedd Ysgol – Arolwg i fusnesau Ar TwitterRhannu Strydoedd Ysgol – Arolwg i fusnesau Ar LinkedInE-bost Strydoedd Ysgol – Arolwg i fusnesau dolen
Consultation has concluded
Mae Cyngor Torfaen yn ystyried p’un ai fyddai’n ymarferol cyflwyno Menter Strydoedd Ysgol mewn ysgolion nad ydynt ar lwybrau bysiau. Byddai hyn yn golygu cau’r stryd sy’n arwain i'r ysgol i’r rheini nad ydynt yn drigolion, a hynny o gwmpas yr amseroedd y mae’r ysgol yn dechrau a gorffen.
Fel rhan o hyn, hoffem arbrofi, a chau strydoedd am un diwrnod o gwmpas yr amseroedd y mae’r ysgol yn dechrau a gorffen, ar y strydoedd hynny y tu allan i'ch ysgol nad ydynt ar lwybr bws i ystyried pa mor effeithiol fyddai’r cynllun.
Prif bwrpas y Fenter Strydoedd Ysgol yw annog mwy o ddisgyblion i gerdded neu seiclo i’r ysgol, lleihau’r angen i ddefnyddio cerbyd ar y daith i’r ysgol, lleihau parcio/tagfeydd gwrthgymdeithasol wrth giât yr ysgol a lleihau’r risg o wrthdrawiadau rhwng pobl a cherbydau. Mae’r arbrawf am ddiwrnod yn unig
Byddai angen ymgynghoriad llawn cyn y byddai'r cyngor yn ystyried gweithredu'r cynllun Strydoedd Ysgol yn barhaol. Byddai hefyd angen i'r cyngor fabwysiadu pwerau cyfreithiol newydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun, siaradwch â'r staff sy'n rheoli'r ymgynghoriad a chau'r ffordd yn y lle cyntaf. Tîm yr Economi a’r Amgylchedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn unig fydd yn dadansoddi’r wybodaeth a’r data personol a ddarperir gennych yn unol â Chyfraith Diogelu Data (GDPR y DU/Deddf Diogelu Data 2018).
A fyddech cystal â nodi data personol (fel eich enw, rhyw, cod post ac ati) lle gofynnir yn glir i chi wneud hynny, a gwyliwch rhag cynnig unrhyw wybodaeth mewn blychau testun y gellid ei defnyddio i'ch adnabod.
I gael mwy o wybodaeth am sut yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth a’ch sylwadau cliciwch yma. Data Gallwch hefyd gysylltu â’ch Swyddog Diogelu Data drwy e-bost:
DPA@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 647467 i gael mwy o wybodaeth.