Helpwch ni i Lunio Siâp Rhwydwaith Teithio Llesol Torfaen
Rhannu Helpwch ni i Lunio Siâp Rhwydwaith Teithio Llesol Torfaen ar FacebookRhannu Helpwch ni i Lunio Siâp Rhwydwaith Teithio Llesol Torfaen Ar TwitterRhannu Helpwch ni i Lunio Siâp Rhwydwaith Teithio Llesol Torfaen Ar LinkedInE-bost Helpwch ni i Lunio Siâp Rhwydwaith Teithio Llesol Torfaen dolen
Mae Cyngor Torfaen yn diweddaru ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol - ac rydyn ni eisiau clywed wrthoch chi!
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu eu llwybrau troed, olwynion a beiciau yn rheolaidd, a’u gwella. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru y map sydd gennym ar hyn o bryd yn 2022, a nawr mae'n amser i ni adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd ddiwethaf.
Beth sy’n cael ei Ddiweddaru?
Bydd y map newydd yn cynnwys:
Llwybrau sydd yma nawr: Mae’r rhain yn llwybrau sy’n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau troed, olwynion neu feiciau (neu bob un o’r tri).
Llwybrau’r dyfodol: Mae’r rhain yn llwybrau sydd ddim yn bodoli eto neu y mae angen eu gwella arnom er mwyn bodloni’r safonau gofynnol.
Mae Angen eich Adborth Arnom
Dyma’r cam cyntaf wrth i ni ymgysylltu â’r cyhoedd, ac mae’ch mewnbwn chi yn holl bwysig. Efallai eich bod chi’n cerdded neu’n teithio ar olwynion neu feic, neu’n poeni am opsiynau teithio gwell. Beth bynnag yw’r rheswm, rydyn ni eisiau clywed eich syniadau chi am y ffordd y gallwn ni wella’r Rhwydwaith.
Galwch heibio i gwrdd â’r tîm, gofynnwch gwestiynau a chymerwch ran. Byddan nhw yn:
Digwyddiad Mawr Cwmbrân – Dydd Sadwrn, 14 Mehefin
Marchnad Pont-y-pŵl - Dydd Mercher 25 Mehefin (10am-2.30pm)
Diwrnod Treftadaeth y Byd – Dydd Sadwrn, 28 Mehefin
Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon – Dydd Gwener, 11 Gorffennaf (10am-2.30pm)
Parti yn y Parc, Pont-y-pŵl – Dydd Sadwrn, 12 Gorffennaf
Llyfrgell Cwmbrân – Dydd Iau, 17 Gorffennaf (10am-2.30pm)