Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol a gynhaliwyd gyda Data Cymru.
Denodd arolwg Dewch i Siarad – Byw yn Nhorfaen 3,314 o bobl i'r dudalen ymgynghori ar Dweud Eich Dweud Torfaen. Yna, llenwodd 1,920 o drigolion ffurflen yr arolwg, gan roi cipolwg gwerthfawr ar agweddau gwahanol ar fyw yn Nhorfaen.
Roedd yr arolwg yn trafod demograffeg, iechyd, boddhad â'r ardal leol, diogelwch, gwasanaethau'r Cyngor, a rhyngweithio â'r Cyngor. Mae'r canlyniadau a'r canfyddiadau allweddol yn cael eu rhannu â meysydd gwasanaeth o fewn Cyngor Torfaen, a byddant yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau eraill a data eraill i oleuo polisïau'r Cyngor wrth i ni symud ymlaen.
Ymgynghoriad nawr ar gau
Mae eich llais yn bwysig
Dewch i Siarad: Arolwg trigolion, sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yw Byw yn Nhorfaen.
Drwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn ein helpu i ddeall y canlynol yn well:
- Yr hyn sy’n bwysig i chi
- Eich profiad o'ch ardal leol
- Sut ydych chi’n teimlo am y cyngor ac yn rhyngweithio ag ef
Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o drigolion â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.
Ar ôl ei gwblhau, rhowch yr arolwg i aelod o staff yn eich llyfrgell leol, neu desg flaen y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl, neu fe allwch ei sganio a’i e-bostio i dweudeichdweud.torfaen.gov.uk
Data Cymru sy’n cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, neu os ydych chi'n cael unrhyw anhawster wrth lenwi’r arolwg ar-lein, e-bostiwch surveys@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.
https://www.torfaen.gov.uk/cy/AboutTheCouncil/DataProtectionFreedomofInformation/DataProtection/Privacy-Notice/Service-Area-PNs/PN160-National-Resident-Survey-Privacy-Notice.aspx