Cynlluniau Rheolaeth y Parc
MAE'R AROLWG HWN BELLACH AR GAU
Mae Cynlluniau Rheoli Parciau newydd yn cael eu creu er mwyn sicrhau bod y parciau mwy sy’n eiddo i’r cyngor yn parhau i gael eu gwella at ddibenion hamdden a byw’n weithgar, gan hyrwyddo bioamrywiaeth yr un pryd.
Bydd y cynlluniau’n ymdrin â mynediad, cyfleusterau, adeiladau, strwythurau ac offer chwarae.
Byddan nhw hefyd yn blaenoriaethu ac yn trefnu gweithgareddau cynnal a chadw yn y dyfodol ac yn rhoi tystiolaeth i gefnogi ceisiadau am arian allanol ar gyfer gwaith gwella a rheolaeth.
Bydd gan bob un o’r saith o barciau sy’n eiddo i’r cyngor eu cynlluniau rheoli eu hunain, ond mae adborth trigolion am ddefnydd o’r parciau a blaenoriaethau yn allweddol ar gyfer rheoli parciau yn y dyfodol.
Mae gennych tan hanner nos ddydd Llun 30ain Medi i gwblhau’r arolwg a rhoi gwybod i ni sut rydych chi’n defnyddio’r parciau, beth sy’n bwysig i chi a beth rydych chi’n credu y gellid gwella.
Mae’r parciau mae gyda ni ariannu ar eu cyfer yn cynnwys
- Parc Blaenafon
- Mannau Hamdden Cwmbrân (Pentre Uchaf, Pentre Isaf, a’r Llyn Cychod)
- Parc Cwmbrân
- Parc Fishpond (Panteg, Tref Gruffydd)
- Parc Glansychan
- Pharc Pontnewydd
- Parc Pont-y-pŵl
Mae’r cynlluniau rheoli’n cael eu hariannu’n llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae’r cynlluniau rheoli wedi derbyn £49,120 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Cymerwch ran yn y Cynlluniau Rheoli Parciau trwy glicio ar yr arolwg isod.
Os oes gyda chi unrhyw adborth am barc penodol, gwnewch yn siŵr eich bod yn enwi’r parc yn adran sylwadau’r arolwg.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Ar ôl i'r arolwg gau, bydd yr adborth a geir yn cael ei ystyried, a bydd fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Fynediad/Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn cael ei llunio. Ar ôl y Nadolig, yn gynnar yn 2025, bydd ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft hefyd. Byddwch yn gallu rhoi’ch adborth trwy'r dudalen Dweud Eich Dweud bryd hynny. Diolch.