Arolwg hawliau tramwy cyhoeddus
Ewch at y Strategaeth a’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn bwriadu ailgyhoeddi ei Gynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) a datblygu Strategaeth Mynediad ar gyfer Teithio Llesol a mynediad i Gefn Gwlad.
Mae’r ymgynghoriad yma’n gyfle i chi gyfrannu a helpu i lunio’r cynllun.
Gallwch hefyd fynd i sesiwn wyneb yn wyneb i drafod yr ymgynghoriad a chwblhau’r arolwg yn:
17eg Medi, 1-3pm Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon
19eg Medi 10am-12 Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl
20fed Medi 4-6pm Eglwys Fethodistaidd Llanyrafon, Cwmbrân
AROLWG YN CAU hanner nos ddydd Sadwrn 5ed Hydref 2025.
Map – gosodwch un o’r pinnau i ddangos ble mae yna faterion
Defnyddiwch un o'r pinnau lliw i farcio ar y map ble hoffech chi roi gwybod am fater ar hawl tramwy cyhoeddus:
Pin gwyrdd - mater gyda llystyfiant
Pin glas - wyneb gwael ar drac neu lwybr
Pin oren – mater hygyrchedd
Pin coch - rhwystr ar y llwybr neu fater arall
Rhowch unrhyw wybodaeth ychwanegol os yn bosibl. Diolch.