Rhannu Cynigion ar Gyfer Cyllideb 2025-2026 ar FacebookRhannu Cynigion ar Gyfer Cyllideb 2025-2026 Ar TwitterRhannu Cynigion ar Gyfer Cyllideb 2025-2026 Ar LinkedInE-bost Cynigion ar Gyfer Cyllideb 2025-2026 dolen
Gofynnwn yn garedig i chi ddarllen y dogfennau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn sy'n amlinellu'r gyllideb arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Mercher, 29 Ionawr hyd nes hanner nos ddydd Gwener, 14 Chwefror, 2025.
Rhagor o wybodaeth am y gyllideb arfaethedig
Er gwaethaf pwysau ariannol parhaus a grëwyd gan chwyddiant a’r galw am wasanaethau, mae'r cyngor mewn sefyllfa dda i gyflwyno cyllideb gytbwys a chyflawni blaenoriaethau ei gynllun sirol y flwyddyn nesaf.
Cafodd y cyngor gynnydd o 4.8% yn y setliad drafft gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu am y dyfarniad cyflog cenedlaethol i staff.
Amcangyfrifir bod cyllideb net 2025/26 y cyngor tua £248.5m, a disgwylir £192.2m gan Lywodraeth Cymru, pan gadarnheir y setliad terfynol ar ddiwedd mis Chwefror.
Fodd bynnag, mae cynllun ariannol tymor canolig y cyngor yn dal i ragweld bwlch o tua XX yn y gyllideb dros y pedair blynedd nesaf.
Mae'r cyngor wedi nodi cynigion ar gyfer 2025/26 sy'n blaenoriaethu buddsoddi mewn ysgolion ac addysg, diogelu gwasanaethau lleol, a chadw biliau treth y cyngor yn isel. Cynigir cynnydd o 4.95% yn nhreth y cyngor i helpu i liniaru toriadau i wasanaethau a cholli swyddi.
Hyd nes y bydd setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gadarnhau, mae'r cynigion canlynol yn cael eu gwneud...
Cynnydd o 6.9% neu £5.35 miliwn i ysgolion Torfaen i helpu i ariannu’r straen sydd arnynt, gyda buddsoddiad pellach o £750,000 ar gyfer cyllideb yr ysgolion a chymorth sy'n gysylltiedig ag ysgolion ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.
£800,000 arall i Ysgol Arbennig Crownbridge; sy’n gwneud cyfanswm buddsoddiad o £1.26m.
£800,000 i fodloni'r galw am Gludiant i’r Ysgol ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Cynnydd o 5% i ddarparwyr Gofal Cymdeithasol i gydnabod effaith y Cyflog Byw Gwirioneddol.
£1m ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
£1m ychwanegol i drawsnewid Gwasanaethau Plant a thalu costau gofal yn 2025/26 a 26/27, gan arwain at leihad net erbyn 2027/28.
£385,000 ychwanegol i gwrdd â straen costau mewn gwasanaethau casglu sbwriel ac ailgylchu a buddsoddiad o £227,000 mewn tîm addysg a gorfodi gwastraff.
£3m ychwanegol i dalu am straen cyflogau a phensiynau staff y cytunwyd arnynt yn genedlaethol oherwydd chwyddiant.
£250,000 i barhau â'r cynllun cyflogaeth a phrentisiaethau i’r rheiny sy'n gadael yr ysgol.
£534,000 ychwanegol i helpu i gefnogi bron i 10,000 o aelwydydd Torfaen trwy'r cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Yn ogystal, cynigir tua £29 miliwn ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y flwyddyn nesaf, gan gynnwys arian ar gyfer grantiau cyfleusterau i'r anabl i helpu pobl i aros yn eu cartrefi.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £5m mewn menter Priffyrdd newydd, a fydd yn galluogi buddsoddiad o tua £60m mewn ffyrdd lleol (rydym yn aros am gadarnhad ynghylch dyraniad Cyngor Torfaen).
Mae'r cyngor nawr eisiau clywed eich barn am ei gynigion ar gyfer y gyllideb. Rhannwch eich adborth trwy'r arolwg isod heb fod yn hwyrach na hanner nos ddydd Gwener 14 Chwefror, 2025. Diolch.
Rhai o'r cynigion. Darllenwch fwy yn y ddolen 'crynodeb o'r gyllideb' ar y dudalen hon