Rhannu Newidiadau arfaethedig i ffioedd Cerbydau Hacni ar FacebookRhannu Newidiadau arfaethedig i ffioedd Cerbydau Hacni Ar TwitterRhannu Newidiadau arfaethedig i ffioedd Cerbydau Hacni Ar LinkedInE-bost Newidiadau arfaethedig i ffioedd Cerbydau Hacni dolen
Consultation has concluded
Mae Cyngor Torfaen wedi derbyn cais gan yrwyr Cerbydau Hacni i gynyddu eu prisiau. Cerbydau Hacni yw’r tacsis du y gellir eu hurio ar y safleoedd tacsi yn Nhorfaen neu eu galw ar y stryd, ac maent yn defnyddio system mesurydd i weithio cost y daith allan.
Roedd y cynnydd diwethaf ym mhrisiau Cerbydau Hacni ym mis Rhagfyr 2018, ac ers hynny mae prisiau tanwydd, cyflogau lleiaf a chostau byw wedi cynyddu. Mae’r ffioedd a godir gan dacsis hur preifat hefyd wedi cynyddu.
Y cynnig gan y gyrwyr yw cynyddu ffioedd 20 y cant ar gyfer teithiau Tariff 1 a Thariff 2.
Taith Arfaethedig
Tal arfaethedig
Tariff 1
1 filltir cyntaf neu ran ohoni
Pob 110 llath nesaf neu ran ohoni
£5.00
10c
Tariff 2
Taith yn cychwyn rhwng hanner nos a 6.00am
Am bob 120 llath nesaf neu ran ohoni
£5.70
15c
Grwpiau o 5 teithiwr neu fwy mewn cerbydau wedi eu trwyddedu i gludo mwy na 4 teithiwr
Tariff 2
Amser aros am bob cyfnod o 30 eiliad neu ran o hynny
30c
Taliadau ychwanegol
Mae’r ffioedd uchod yn cael eu dyblu ar y dyddiau canlynol: Noswyl y Nadolig (6pm – hanner nos), Diwrnod y Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Calan (6pm – hanner nos), Dydd Calan, Llun y Pasg, gŵyl banc y gwanwyn, gŵyl banc yr haf a gwyliau banc eraill a gyhoeddir gan Senedd Llywodraeth Cymru – Tariff 2
Pob anifail yn cael ei gludo ar ddisgresiwn y gyrrwr (ac eithrio cŵn tywys, cŵn clyw a chŵn cymorth eraill a fydd yn cael eu cludo am ddim oni fo gan y gyrrwr eithriad am resymau meddygol)
£2.00
Gellir codi hyd at uchafswm o hyn am unrhyw faeddu cerbyd
£150
Ni ddylai ffioedd ar gyfer teithiau sy’n diweddu y tu allan i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac mewn perthynas â’r rhain ni wnaethpwyd unrhyw gytundeb cyn llogi’r cerbyd fod yn fwy na’r raddfa daliadau awdurdodedig a ddangosir uchod.
Mae’r Cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd, y busnes tacsis a phartïon eraill â diddordeb ar y newidiadau arfaethedig. Dylid anfon unrhyw sylwadau at: Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Panteg Way, y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 0LS neu ebostio licensing@torfaen.gov.uk erbyn dydd Mercher 12 Hydref. Nodwch eich rhesymau dros wrthwynebu neu gefnogi’r cynnig os gwelwch yn dda.
Bydd y cynnydd yn ffioedd y Cerbydau Hacni yn dod i rym ar ddydd Iau 13 Hydref 2022 os nad oes unrhyw wrthwynebiadau.
Os derbynnir gwrthwynebiadau, byddant yn cael eu hystyried a bydd dyddiad pellach ar gyfer unrhyw newidiadau yn cael ei bennu ddim llai na dau fis ar ôl dydd Iau 13 Hydref 2022.