Adolygu terfynau cyflymder 20mya

Rhannu Adolygu terfynau cyflymder 20mya ar Facebook Rhannu Adolygu terfynau cyflymder 20mya Ar Twitter Rhannu Adolygu terfynau cyflymder 20mya Ar LinkedIn E-bost Adolygu terfynau cyflymder 20mya dolen

Diolch am gysylltu â ni ynglŷn â therfynau cyflymder 20mya.

Os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod, a fyddech cystal ag anfon eich awgrymiadau atom (ynghyd â rhesymau dilys) yn nodi pam y dylai ffordd gael ei heithrio rhag y terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya yng Nghymru.

Byddwn yn cofnodi eich adborth ac yn ei adolygu unwaith y bydd canllawiau newydd ar eithriadau ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn disgwyl y canllawiau hyn cyn hir. Mae Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, yn cynnal cyfres o wrandawiadau ar hyd a lled Cymru gan roi lle blaengar i gymunedau, a gwrando ar leisiau ein dinasyddion.

Ni fyddwn yn gallu cofnodi unrhyw sylwadau cyffredinol am y Polisi Cenedlaethol 20mya, gan fod hynny'n fater i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Llenwch y ffurflen hon ar gyfer y ffordd/ffyrdd yr ydych yn teimlo y delent

• gael ei eithrio/eu heithrio rhag y terfyn cyflymder 20mya a’u dychwelyd i 30mya

neu

• aros yn 20mph

**Os hoffech gyflwyno adborth ar fwy nag un ffordd/stryd, llenwch ffurflen ar wahân ar gyfer pob ffordd. Os yw eich cais yn ymwneud â rhan o ffordd yn hytrach na'r ffordd gyfan, nodwch yn glir lle mae'n dechrau ac yn gorffen**

Gwybodaeth Ddefnyddiol a Chysylltiadau

Os yw eich adborth yn ymwneud â chefnffyrdd, nid cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw’r rhain, felly, e-bostiwch TrunkRoads20mph@gov.wales

Mae mwy o wybodaeth am gefnffyrdd ar gael ar MapDataCymru.

Gwefan Llywodraeth Cymru am unrhyw ddiweddariadau ychwanegol. Terfynau cyflymder 20mya

Ni wnaeth pob ffordd 30mya newid i 20mya ym mis Medi 2023.

Gallwch weld map ar MapDataCymru sy’n dangos pa ffyrdd sydd wedi aros yn 30mya

Cwestiynau Cyffredin Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin | GOV.WALES

Cyhoeddi: 23 Meh 2025, 04:57 PM